Ailddatblygu

Mae Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo cyllid i brosiect adnewyddu YMCA Pontypridd a fydd hefyd yn elwa ar dros £2 filiwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r Cabinet wedi cytuno i’r Cyngor gymryd perchnogaeth o adeilad yr  YMCA a buddsoddi £383,000 ychwanegol er mwyn ei ailddatblygu. Mae hyn yn golygu bod dros £4 miliwn o gyllid allanol yn rhan o’r prosiect, gan gynnwys £2.28 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac yn sicrhau y bydd y gwaith yn dechrau yn gynnar yn 2020.

Argymhellodd adroddiad i’r Cabinet Ddydd Mawrth, 17 Rhagfyr, y dylai’r Aelodau gytuno ar y buddsoddiad ychwanegol, a fyddai’n cwblhau’r pecyn cyllido gwerth £4.48 miliwn ar gyfer y prosiect. Argymhellodd hefyd y dylai’r Aelodau awdurdodi’r Cyngor i gymryd perchnogaeth o adeilad Stryd Taf, a’i brydlesu yn ôl i’r YMCA dros gyfnod o 99 mlynedd – gydag adolygiad o’r trefniadau mewn 25 mlynedd.

Bydd y cynlluniau ailddatblygu uchelgeisiol, a fydd yn elwa ar fuddsoddiad gwerth £2.28 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn dod â’r lleoliad lleol hanesyddol a gafodd ei adeiladu yn 1910 yn ôl i ddefnydd er budd y gymuned. Bydd gwaith y prosiect yn cynnwys ailwampio’r adeilad yn llwyr, gyda Neuadd Shelley wrth galon y gwaith. Bydd nifer o leoedd cymunedol hefyd yn cael eu darparu ar gyfer grwpiau lleol.

Cytunodd y Cabinet ag argymhellion yr adroddiad. Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith yn cael ei gychwyn fis nesaf. Mae disgwyl i’r prosiect gael ei gwblhau yng nghanol 2021, gyda chwmni Knox & Wells wedi’i benodi’n gontractwr a chwmni Capita yn gynllunydd. Bydd yr adeilad gorffenedig yn cael ei redeg gan sefydliad Cymuned Artis ar ran Pontypridd YMCA.

Meddai’r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu, a Thai: “Rwy’n falch iawn bod y Cabinet wedi cytuno i’r Cyngor gymryd perchnogaeth o adeilad YMCA Pontypridd, a buddsoddi £383,000 pellach i sicrhau bod y prosiect hwn gwerth £4.48miliwn yn cael ei wireddu. Dyma brosiect uchelgeisiol iawn a fydd yn adfywio adeilad YMCA, sydd â lle mor amlwg a phwysig yn hanes Pontypridd.

“Bydd yr YMCA ar ei newydd wedd yn canolbwyntio ar hyrwyddo’r celfyddydau, gan barhau â’i rôl draddodiadol wrth ddod â phobl at ei gilydd, fel y mae wedi bod ers cenedlaethau lawer yn y gorffennol. Mae’n gyffrous iawn i feddwl bydd y gwaith yn cychwyn ar y safle yn ystod y flwyddyn newydd.

“Mae Pontypridd yn un o bum Ardal Cyfleoedd Strategol y Cyngor, a gafodd ei nodi oherwydd ei botensial enfawr ar gyfer twf economaidd. Mae’r rhain yn amseroedd cyffrous i’r dref, gyda phrosiect YMCA dafliad carreg o’r datblygiad aml-ddefnydd sy’n cynnwys swyddfeydd, Llys Cadwyn, ar hen safle Canolfan Siopa Dyffryn Taf – y mae disgwyl ei gwblhau yn 2020.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld cynnydd tebyg gyda’r YMCA trwy gydol y flwyddyn nesaf, ac i’r Cyngor weithio’n agos â Chyngor Celfyddydau Cymru ac YMCA Pontypridd i wireddu’r prosiect uchelgeisiol yma.”

Ychwanegodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch iawn o gefnogi gwaith ailddatblygu pwysig yr adeilad hanesyddol yma. Wrth i bobl gymryd rhan mewn profiadau celfyddydol o ansawdd uchel, nod y prosiect yw gwneud gwahaniaeth i’w bywydau. Gan fod amcanion Cymuned Artis yn debyg iawn, bydd yn galluogi’r sefydliad i gynnig hyd yn oed mwy nag y mae ar hyn o bryd.

“Mae’r YMCA yn lle arbennig i lawer o bobl ym Mhontypridd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y traddodiad yma yn parhau wrth i genhedlaeth newydd fwynhau ystod eang o weithgareddau.”

Meddai Cadeirydd YMCA Pontypridd, Kay Walters: “Rydyn ni mor ddiolchgar i Gyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Celfyddydau Cymru am adfywio adeilad hanesyddol YMCA Pontypridd. Rydyn ni’n gwybod bod yr YMCA yn golygu llawer i bobl, a bydd y buddsoddiad sylweddol yma yn ein galluogi i ailagor adeilad sydd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes cymdeithasol a diwylliannol cyfoethog Pontypridd.

“Wrth i ni adnewyddu YMCA Pontypridd, byddwn ni’n adeiladu ar y gwerthoedd y mae wedi’u cynnal drwy gydol ei oes. Yn yr adeilad, bydd cyfleoedd cymdeithasol, creadigol ac addysgol ar gael i bobl o bob oed. Bydd yn darparu llwyfan ar gyfer achlysuron ar raddfa lai wrth i ni ailagor Neuadd Shelley. Bydd hyn yn ategu darpariaeth arall yn yr ardal.

“Mae ein cynlluniau ar gyfer YMCA Pontypridd yn seiliedig ar bartneriaeth, a’n gobaith yw gweithio ar y cyd â sefydliadau eraill yn yr ardal i roi llwyfan modern, heb ei ail iddyn nhw a’u gwaith. Byddwn ni’n parhau i gynnwys pob elfen o’n cymuned yn rhan o’n trafodaethau wrth fynd ati i benderfynu sut y bydd modd i’r cyfleuster yma ddiwallu eu hanghenion a’u dyheadau.”

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar y Blog Ailddatblygu.