Penodi’r artistiaid Heinrich a Palmer ar gyfer Gwaith Gwydr Comisiwn Celf Gyhoeddus YMCA!

Thursday April 30th, 2020

Mae ailddatblygu YMCA Pontypridd wedi cyrraedd cyfnod cyffrous! Drwy gydweithio rhwng YMCA Pontypridd, Artis Cymuned, Gwasanaethau Celf Rhondda Cynon Taf ac arbenigwyr celf gyhoeddus lleol Addo Creative, rydym yn hynod falch i gyhoeddi y detholwyd yr artistiaid Heinrich a Palmer i ddatblygu dyluniadau 2D ar gyfer ffasâd gwydr lefel parapet adeilad YMCA ym Mhontypridd. Caiff y comisiwn celf gyhoeddus ei gyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o’i gyfraniad i ailddatblygiad ehangach YMCA Pontypridd. Caiff y celfwaith gorffenedig ei osod yn barod ar gyfer agor yr adeilad yn Haf/Hydref 2021 – mae hyn wrth gwrs yn dibynnu ar effaith barhaus cyfyngiadau Covid-19. Caiff yr holl waith yn ystod y cyfnod hwn ei wneud gan ddilyn y cyfarwyddyd diweddaraf ar ymbellhau cymdeithasol.

 

Mae Anna Heinrich a Leon Palmer yn ddau artist Prydeinig sydd wedi cydweithio ers dechrau’r 1990au. Mae ganddynt ymarfer eang, traws-disgyblaeth, sy’n cwmpasu gosodweithiau, digwyddiadau taflunio graddfa fawr, ffilmiau a ffotograffiaeth. Mae ganddynt ddull gweithredu penodol i safle ac yn aml yn cyfuno cyfryngau dros dro tebyg i ffilm ddigidol, golau, sain a thafluniad gyda deunyddiau a strwythurau ffisegol i dynnu ystyron amgen neu amwys. Mae llawer o’u prosiectau yn esblygu drwy broses o ymchwil, ymgysylltu neu gydweithio gyda phobl o ddisgyblaethau eraill megis penseiri, peirianwyr, rhaglenwyr a gwneuthurwyr.

 

“Mae ailddatblygu’r YMCA yn brosiect pwysig iawn i Bontypridd. Mae’r comisiwn celf gyhoeddus hwn yn ffordd gyffrous i gysylltu gyda’r gymuned leol tra bod y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo ac rydym yn hynod falch i fedru gweithio gyda Heinrich a Palmer ar y prosiect cyffrous hwn.” – Kay Walters, Cadeirydd YMCA Pontypridd

 

Gwefan yr Artistiaid: www.heinrichpalmer.co.uk

Instagram: @heinrichandpalmer

Twitter: @HeinrichPalmer

Facebook: @AnnaHeinrichLeonPalmer