Siân Humphreys yw Cadeirydd newydd YMCA Pontypridd

Tuesday June 22nd, 2021

Mae YMCA Pontypridd yn falch iawn i gyhoeddi y penodwyd Siân Humphreys yn Gadeirydd YMCA Pontypridd.

Cafodd Siân ei magu ym Mhontypridd ac mae’n dal i fyw yn y dref. Mae’n Ymgynghorydd Busnes gydag Admiral ac mae ganddi brofiad enfawr mewn rheoli a chydlynu prosiectau. Graddiodd o Raglen 20Twenty Arwain Twf Busnes o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Bu Siân yn ymddiriedolydd YMCA Pontypridd ers y llynedd ac mae’n edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous i’r sefydliad.

Dywedodd Siân Humphreys: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at arwain y Bwrdd Ymddiriedolwyr i’r cyfnod nesaf ar gyfer YMCA Pontypridd ac adeiladu ar y gwaith a wnaed yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Diolch i Kay Walters am yr amser a’r egni y mae hi wedi’i roi fel Cadeirydd.”

Bydd Kay Walters, cyn Gadeirydd YMCA Pontypridd, yn aros ar y Bwrdd. Dywedodd Kay Walters: “Llongyfarchiadau i Siân ar ei rôl newydd. Bydd profiad busnes Siân a’i hymroddiad yn allweddol i’w rôl fel Cadeirydd YMCA Pontypridd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi a gweddill y Bwrdd mewn cyfnod pwysig ar gyfer YMCA Pontypridd.”

Bu’r gwaith i ailddatblygu adeilad hanesyddol YMCA Pontypridd yn mynd rhagddo’n dda, diolch i gyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Moondance a Sefydliad Garfield Weston. Bydd cynlluniau uchelgeisiol yn dychwelyd y safle lleol hanesyddol i ddefnydd y gymuned erbyn diwedd 2021. Bydd Artis Community Cymuned, y prif denant a phartner hirdymor, yn rheoli’r adeilad ar ran YMCA Pontypridd.

Dywedodd Jên Angharad, Prif Swyddog Gweithredol Artis: “Mae hwn yn amser cyffrous iawn i Artis a’n partneriaeth gyda YMCA Pontypridd. Mae gan yr adeilad hwn lawer iawn o hanes cymdeithasol ac atgofion arbennig. Mae llawer o bobl, dros gyfnod hir, wedi cymryd rhan wrth adnewyddu’r adeilad fel y gall unwaith eto gymryd ei le o fewn y gymuned nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau lleol a grwpiau cymunedol i wneud yn siŵr fod ei raglenni yn ategu darpariaeth arall yn y dref a’r ardal. Bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn safle ar gyfer cyfleoedd cymdeithasol, creadigol, dysgu a hyfforddiant ar gyfer pobl o bob oed i’w mwynhau. Mae partneriaethau a chydweithio yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd yr adnodd anhygoel hwn. Byddwn yn parhau i weithio gyda YMCA Pontypridd, sefydliadau, artistiaid a phobl leol i ddatblygu a sicrhau llwyfan ar gyfer gwaith creadigol, artistig a chymunedol.”

Meddai Siân Humphreys: “Mae profiad Artis o weithio gyda’r gymuned yn golygu mai nhw sydd yn y lle gorau i gyflenwi o fewn y gofod newydd. Rwy’n hyderus yn eu gallu i reoli’r adeilad ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda nhw i ddod â’r adeilad yn ôl i’w nerth llawn. Mae’r prosiect hwn yn un cadarnhaol sy’n dod â gobaith i’r dref. Mae cymaint i edrych ymlaen eto, felly cyhoeddir datblygiadau cyffrous yn fuan yn cynnwys enw newydd ar gyfer yr adeilad.”