Prosiectau

Ein Lle

Mae Ein Lle yn brosiect partneriaeth a gyflwynir gydag Artis Community Cymuned i gynnig grŵp cefnogi cymheiriaid i rieni sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn Rhondda Cynon Taf. Mae’n grŵp wythnosol diogel a chroesawgar rhad ac am ddim ar gyfer rhieni gyda phlant ifanc. Cynigir sgiliau rhianta, cymdeithasol a thechnegol i rieni, tra bod y plant cyn-ysgol yn gwneud ffrindiau, chwarae a gwella eu sgiliau iaith drwy ganu caneuon a rhigymau.

Mae’n cynnig rhwydwaith cefnogi i ddarparu sefydlogrwydd sydd ei fawr angen ar gyfer rhieni a all fod mewn sefyllfaoedd cymhleth a heb gefnogaeth, gan gynnig cyngor a hyfforddiant anffurfiol gan weithwyr proffesiynol fel y gwneir cais hynny ac yn ôl yr angen.

Cysylltwch â ni i gofrestru eich diddordeb.

Rydyn ni’n Recriwtio! 

Mae grŵp Rhieni a Babanod “Ein Lle” yn cyflogi gweithiwr cymorth achlysurol ar gyfer y grŵp Rhieni a Babanod wythnosol poblogaidd. Mae gennym 3 grŵp ar foreau Mawrth, Mercher a Iau ym Mhontypridd; rhwng 10.00 a.m. a 1.00 p.m. 

Mae cyfle i Gynorthwyydd Rhiant a Babanod Achlysurol ein helpu i redeg y rhaglen lwyddiannus hon. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys sefydlu gweithgareddau, paratoi lluniaeth a chefnogi rhieni a phlant yn ystod y sesiwn. Mae cymhwyster gofal plant neu brofiad perthnasol priodol yn hanfodol. Bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 3 Ebrill 2020

Os oes gennych ddiddordeb i fod yn rhan o’n tîm, cysylltwch â ni er mwyn cael mwy o wybodaeth a swydd-ddisgrifiad: hannah@artiscommunity.org.uk neu mgwms42@hotmail.com

 

Hysbysfyrddau

I ddathlu ailddatblygiad adeilad YMCA Pontypridd, buom yn gweithio gyda Artis Community Cymuned a’r artist Andy O’Rourke o Malarky Arts. Gweithiodd yr artist gyda’r gymuned i greu celfwaith sy’n dathlu gorffennol, presennol a dyfodol YMCA Pontypridd.

Mae hefyd yn cynnwys prosiect Atgofion YMCA. Gellir edrych ar gynnwys o Atgofion YMCA ar yr hysbysfyrddau o amgylch yr adeilad. Drwy lawrlwytho ap Zapper, gall defnyddwyr ddatgloi cynnwys drwy sganio’r codau sy’n ymddangos yn ymyl y celfwaith.

  

Atgofion

Roedd prosiect Atgofion YMCA yn ymchwilio gorffennol YMCA Pontypridd drwy gasglu straeon, ffotograffau a fideos yn dathlu’r adeilad a’r gymuned a’i defnyddiodd ers 1910. Roedd y gwaith terfynol ar wedd cyfweliadau, ffilm ac animeiddiad a gafodd ei greu gan blant yn byw ym Mhontypridd. Gellir gweld y gwaith yma.

Caiff archif yr YMCA ei gadw ar hyn o bryd yn Archifau Morgannwg.