Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma’n esbonio sut mae YMCA Pontypridd yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch pan ddefnyddiwch y wefan hon a chymryd rhan mewn prosiectau a arweinir gan YMCA Pontypridd.

 

Pa wybodaeth ydyn ni’n ei chasglu amdanoch?

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch i anfon negeseuon e-bost atoch am ein prosiectau a digwyddiadau yr ydym yn ymwneud â nhw. Caiff eich gwybodaeth ei storio’n electronig ar ein cronfa ddata a chaiff ffurflenni cofrestru papur eu storio’n ddiogel.

Ni fydd YMCA Pontypridd yn rhannu gwybodaeth ar gyfer dibenion marchnata gyda chwmnïau y tu allan i’n sefydliad.

 

Marchnata

Hoffem anfon gwybodaeth atoch am brosiectau a gaiff eu harwain gan YMCA Pontypridd a digwyddiadau eraill yr ydym yn ymwneud â nhw a all fod o ddiddordeb i chi. Os ydych wedi rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi, gallwch optio allan ar unrhyw amser.

Os nad ydych yn dymuno i ni gysylltu â chi mwyach, gallwch gysylltu â ni drwy ffonio

01443 490390 neu e-bost info@pontypriddymca.co.uk

 

Mynediad a chywiro eich gwybodaeth

Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth a gadwn amdanoch. Os hoffech gopi o beth neu’r cyfan o’ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni drwy ffonio 01443 490390 neu e-bost info@pontypriddymca.co.uk

Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod eich gwybodaeth bersonol yn gywir ac yn gyfredol. Gallwch ofyn i ni gywiro neu ddileu gwybodaeth a gredwch sy’n anghywir.

 

Newidiadau i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn gyson a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariad ar y dudalen hon. Cafodd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 22 Mai 2018.

 

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hysbysiad preifatrwydd neu wybodaeth a gadwn amdanoch:

drwy e-bost info@pontypriddymca.co.uk

drwy ffonio 01443 490390

neu drwy ysgrifennu atom yn YMCA Pontypridd d/o JR House D6, Prif Rodfa, Stad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5UR.